Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.03 - 10.57 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Rob Curtis, Petitioner and Chair of Friends of Barry Beach Gill Bell, Wales Programme Manager Marine Conservation Society |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
2.1 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am:
· ei sylwadau pellach yng ngoleuni barn y deisebwr; ac am
· ddiweddariad ar y sefyllfa yn ymwneud ag adnewyddu'r Gwasanaeth Premier rhwng y Gogledd a'r De, sydd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Mai a phryd y mae hi'n debygol o allu gwneud cyhoeddiad ar y gwasanaeth cyflym rhwng y Gogledd a'r De.
2.2 P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ar y Cyswllt â Maes Awyr Caerdydd.
2.3 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ddiweddariad brys ar y mater a gofyn am eglurhad ar:
· a oes gwaith ar y gweill i ddiwygio'r Effaith Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 yn dilyn adroddiad Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw a'r ymgynghoriad dilynol (fel y nodwyd i Gyngor Twristiaeth Cymru); ac
· yng ngoleuni hyn i egluro'r datganiad ym mharagraff olaf ei llythyr ar 10 Hydref fod '... gweithdrefnau sydd ar waith ar hyn o bryd yn ddigonol ac nid oes angen gweithredu pellach.'
2.4 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, Byrddau Iechyd Lleol ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am y telerau y gofynnodd y deisebwyr amdanynt. Hefyd, i ysgrifennu at Brif Swyddog Gweithredol newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore, yn gofyn am sicrwydd ynghylch y patrymau diweddaraf o ran amseroedd diagnosis ar gyfer awtistiaeth yn Sir Benfro, sy’n ymddangos fel eu bod wedi gwaethygu, ar ôl gwella i ddechrau.
2.5 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa gynlluniau sydd yna i ddarparu offer i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal triniaethau gyda chymorth robotig, ac i gael gwybodaeth am y system sydd ar y gweill ym Manceinion ar hyn o bryd. Hefyd, i gael eglurder am y goblygiadau o ran cost i’r Bwrdd Iechyd o barhau i anfon cleifion i Fanceinion.
2.6 P-04-501 Gwneud canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd.
2.7 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at y deisebydd i ofyn iddo fynegi cydymdeimlad y Pwyllgor â theulu Beth Margetson; ac
· aros am ymateb gan y deisebydd ar yr ohebiaeth Weinidogol.
2.8 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
2.9 P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau ar yr ymchwiliad y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd; ac
· aros am ganlyniad ystyriaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
2.10 P-04-571 Trin Anemia Niweidiol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb adeiladol a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor o ganlyniad ei:
· lythyr at Jane Ellison AS, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar Iechyd mewn perthynas â chefnogaeth i ddatblygu triniaeth drwyddedig drwy'r geg yn gyflym; a
· chais i NIHCE i ystyried datblygu cyngor i glinigwyr.
2.11 P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni eglurhad y Gweinidog na all Llywodraeth Cymru'n gyfreithlon wahardd cnydau GM yng Nghymru.
2.12 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn:
2.13 P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ystyried y mater o bosibl fel rhan o'i ystyriaeth o'r Bil Treftadaeth (Cymru) arfaethedig.
2.14 P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad y camau a amlinellwyd gan y Gweinidog, ond i ysgrifennu i ofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor cyn gynted a bod yna gynnydd pellach.
2.15 P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; a
· gwneud penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb.
2.16 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog sicrhau y bydd y deisebwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad ar yr adolygiad sydd i ddechrau yn y gwanwyn.
3 Deisebau anweithredol
3.1 P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
· chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.
3.2 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
3.3 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
3.4 P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy A483
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
3.5 P-04-512 Rhoi terfyn ar y Cynigion i gwtogi staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
3.6 P-04-520 Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
4 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor:
· Rob Curtis, Deisebydd a Chadeirydd Cyfeillion Traeth y Barri; a
· Gill Bell, Rheolwr Rhaglen Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol.
Cytunodd Rob Curtis i anfon gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y gwaharddiad ar becynnau bwyd polystyren mewn Dinasoedd ar dir mawr Ewrop.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Adolygiad o'r System Ddeisebau
Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.